Skip to main content
Published

Martens on the Move yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru 2025

Ym mis Hydref, aeth staff Martens on the Move i Gynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

©Jason Hornblow

Ar gael yn saesneg

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a drefnodd y digwyddiad - sefydliad sy'n dod â chwaraewyr allweddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hyrwyddo a monitro bioamrywiaeth a gweithredu ar yr ecosystem yng Nghymru’.

Ymunodd Lucy Nord, Swyddog Prosiect Martens on the Move (ffin Cymru/Lloegr), â phanel a oedd yn cynnwys dau brosiect arall sy'n cael eu cyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (Prosiect SIARC a Natur am Byth!) yn y sesiwn yn y gynhadledd ar Adfer Rhywogaethau. Bu Lucy yn trafod sut mae'r prosiect yn cefnogi adferiad bele'r coed ar draws Sir Fynwy, Powys, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Sied Ddynion Llangadog, Llandeilo a Llanymddyfri' ©Rowie Burcham

Tynnodd Lucy sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned wrth weithio i adfer y rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf yng Nghymru, a chafodd hyn ei ategu gan holl siaradwyr y panel. Mae Martens on the Move yn gweithio ar draws ardaloedd penodol yng Nghymru i wneud y canlynol:

  • gwella cynefinoedd ar gyfer bele'r coed, drwy wneud pethau fel gosod blychau ffau artiffisial ar gyfer gaeafu a bridio;
  • monitro bele'r coed mewn blychau ffau a theclynnau bwydo sy’n cynnwys camerâu olrhain; a hefyd
  • codi ymwybyddiaeth o'r rhywogaeth a'r angen i adfer natur ar raddfa'r dirwedd.

Mae prosiect Martens on the Move Ymddiriedolaeth Natur Vincent (VWT) yn parhau â gwaith blaenorol mae'r Ymddiriedolaeth wedi ei wneud i warchod bele'r coed. Dro’n ôl, roedd bele’r coed i’w gweld ledled y rhan fwyaf o Gymru, pan oedd coetiroedd mawr ac iach yn gorchuddio'r wlad. Fodd bynnag, dechreuodd pobl glirio'r coedwigoedd hyn tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ac ers hynny mae colli cynefinoedd wedi effeithio ar lawer o anifeiliaid sy'n byw mewn coedwigoedd, gan gynnwys bele'r coed. Yn ystod y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, gostyngodd eu niferoedd yn sylweddol oherwydd colli cynefinoedd yn barhaus a chynnydd mewn rheoli ysglyfaethwyr yn gysylltiedig â'r twf mewn ystadau saethu anifeiliaid hela yn Oes Fictoria.

Credir bod y rhywogaethau wedi goroesi mewn niferoedd isel iawn mewn rhannau o Fynyddoedd Cambria, Sir Gaerfyrddin ac Eryri, ond mae’r poblogaethau hynny sydd ar ôl mewn perygl o ddiflannu'n llwyr. Rhwng 2015 a 2017, llwyddodd VWT i drawsleoli 51 bele'r coed o ogledd yr Alban i ganolbarth Cymru, ac mae'r boblogaeth hon yn bridio'n llwyddiannus bob blwyddyn ac yn lledaenu ar draws tirweddau.

Heddiw, mae Martens on the Move yn gweithio yng Nghymru gyda sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i barhau i warchod bele'r coed a helpu i sicrhau bod y rhywogaeth frodorol hon yn ffynnu yng Nghymru unwaith eto.