Skip to main content
Published

Belaod ar Grwydr – uchafbwyntiau 2025

Wrth i’r flwyddyn newydd gyrraedd a 2025 ddod i ben, mae Belaod ar Grwydr wedi cyrraedd pwynt hanner ffordd y prosiect pedair blynedd, ariannwyd gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.. 

Gwirfoddolwr yn dysgu sut i ddefnyddio camera fideo.

Ar gael yn saesneg

Roedd y llynedd yn flwyddyn brysur arall i'r Tîm Belaod ar Grwydr, yn gosod blychau nythu, monitro bele’r coed, gweithio gyda gwirfoddolwyr ac ymgysylltu â'r cyhoedd mewn digwyddiadau cymunedol. Hefyd lansiwyd tri safle Hafan Bele’r Coed a pharhawyd i ddatblygu Rhaglen Fonitro Genedlaethol Bele’r Coed – Map Bele’r Coed. Mae'r holl waith hwn wedi'i gyflawni ar draws un ar ddeg sir yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, ac mae tîm y prosiect (yn ogystal â staff ehangach VWT) wedi gweithio'n galed i wneud 2025 yn flwyddyn lwyddiannus o ran gwarchod bele’r coed. 

Beth wnaethon ni yn 2025? 

Hyfforddi gwirfoddolwyr 

Uchafbwynt personol Belaod ar Grwydr oedd bod yn rhan o gymaint o sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr a gweld y brwdfrydedd tuag at fele’r coed. Rydym wedi cynnal y sesiynau hyn ar draws ardal y prosiect, o Goedwigoedd Solway yn yr Alban i Goedwig Dean yn Lloegr, a choedwigoedd Ceredigion yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cynnal gweminarau, i wirfoddolwyr eu dilyn ar-lein. 

Mae'r gweithgareddau hyn wedi cael eu harwain gan Swyddogion Prosiect Belaod ar Grwydr, Victoria Chanin a Lucy Nord, gyda chefnogaeth Swyddog Cadwraeth Cigysyddion VWT, Katherine McBride, a'r Swyddog Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â'r Gymuned, Laura Lawrance-Owen. Ymysg y pynciau roedd gosod a chynnal a chadw blychau nythu bele’r coed, a sut i fonitro'r rhywogaeth. 

Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o'r hyfforddiant tri diwrnod i osod blychau a gynhaliwyd gennym yn Nyffryn Tweed ym mis Hydref. Dechreuon ni'r wythnos trwy roi cyflwyniad i'r gwirfoddolwyr i'r prosiect, bele’r coed a pham fod angen blychau nythu ar y rhywogaeth. Yna treuliwyd y ddau ddiwrnod a hanner nesaf y tu allan yng nghoetiroedd hardd Tweed Valley yn dysgu sut i osod y blychau. Erbyn y diwedd, roedd gennym wyth gwirfoddolwr gwych o bob rhan o Ororau'r Alban sydd bellach yn teimlo’n hyderus i helpu gyda’r gwaith o osod blychau nythu. Mae gwirfoddolwyr profiadol a brwdfrydig sy'n cefnogi'r gwaith maes hwn yn amhrisiadwy i'r prosiect a nodau cadwraeth bele’r coed. Y nod yn y pen draw yw bod y gwirfoddolwyr hynny’n dechrau arwain y gwaith maes. 

Hyfforddiant ar gyfer gosod blychau nythu yn Nyffryn Tweed.

 

Gwnaed gwaith arbennig yn 2025, gyda chymorth gwirfoddolwyr, i osod 42 o flychau nythu newydd ar gyfer bele’r coed a wnaed gan dair Sied Dynion (Dalbeattie, Peebles a'r Cylch a Llangadog, Llandeilo a Llanymddyfri), Sied Gymunedol Brechfa, a Phrosiect Houghton. Diolch i'r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud i hyn ddigwydd! 

Men’s Shed Peebles a’r Cylch yn danfon y blychau lloches i felaod maen nhw wedi bod yn eu hadeliadu i Victoria Chanin, Swyddog y Prosiect Belaod ar Grwydr.

 

Lansio Hafan Bele’r Coed  

Fel Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer y prosiect, rhan fawr o fy ngwaith eleni oedd helpu i greu ein tri safle newydd Hafan Bele’r Coed (un yng Nghymru, un yn yr Alban ac un yn Lloegr) ac i drefnu eu digwyddiadau lansio. Mae'r safleoedd Hafan hyn wedi'u datblygu ar gyfer cymunedau lleol, ymwelwyr rhanbarthol ac ymwelwyr cenedlaethol i ddarganfod a dysgu am fele’r coed. Gyda chuddfannau bywyd gwyllt newydd, byrddau gwybodaeth a silwetau bele’r coed wedi'u cuddio yn y coed, mae'r llwybrau natur hyn wedi'u cynllunio i'r teulu cyfan eu mwynhau. 

Safleoedd Hafan Bele’r Coed 

  • Coedwig Wentwood yn Sir Fynwy (Cymru) gyda Coed Cadw yng Nghymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Kirroughtree yn Dumfries a Galloway (Yr Alban) gyda Forestry and Land Scotland.
  • Wallington yn Northumberland (Lloegr) gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Roedd creu safleoedd Hafan yn ymdrech enfawr ar ran y tîm a oedd yn cynnwys staff VWT, partneriaid prosiect, contractwyr a gwirfoddolwyr i sicrhau bod pob safle yn barod ar gyfer y diwrnod lansio... gan gynnwys rhywfaint o waith adeiladu ar safle Wentwood Haven. Buom yn gweithio gyda staff a gwirfoddolwyr Coed Cadw i adeiladu'r llwybr i'r Guddfan Bywyd Gwyllt ac i osod grisiau a ramp i'r Guddfan. Roedd hwn yn waith eithaf corfforol (yn enwedig symud y graean ar gyfer y llwybr o'r maes parcio i'r guddfan!), ond roedd agwedd y gwirfoddolwyr yn gadarnhaol drwy'r amser. Roedd hefyd yn hyfryd dod i adnabod aelodau o'r gymuned leol sy'n amlwg yn hoff iawn o Goedwig Wentwood. 

Gwirfoddolwyr Coed Cadw yn helpu i adeiladu'r llwybr i'r guddfan bywyd gwyllt yn Wentwood Pine Marten Haven.

 

Yn olaf, fe wnaethom agor safleoedd Hafan yn swyddogol gyda'n partneriaid prosiect, gyda phob digwyddiad lansio yn dwyn ynghyd bobl o wahanol grwpiau, sefydliadau a chymunedau sy'n ymwneud â gwarchod bele’r coed yn eu gwlad. Roedd y digwyddiadau yn dathlu'r gwaith caled a wnaed i ddatblygu’r safleoedd Hafan dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Mwynhaodd y gwesteion deithiau cerdded tywys ar hyd y llwybr, digwyddiad torri rhuban i agor pob un o'r cuddfannau bywyd gwyllt, cyfle i sgwrsio a bwyta cacen bele’r coed yn y goedwig. Arweiniodd y tîm hefyd deithiau tywys i aelodau o'r cyhoedd.  

Map Bele’r Coed: Rhaglen Fonitro Genedlaethol Bele’r Coed 

Fe’i lansiwyd ddiwedd 2024, a hon yw Rhaglen Fonitro Genedlaethol Bele’r Coed gyntaf Prydain (NPMMP). Mae'n gronfa ddata sy'n casglu a choladu data bele’r coed gan unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled Prydain. Mae'r data hwn yn darparu gwybodaeth hanfodol i baratoi'r Map Bele’r Coed, map dosbarthu bele’r coed a fydd yn darparu gwybodaeth am adfer niferoedd bele’r coed ac yn fodd inni helpu i flaenoriaethu camau cadwraeth lle maent fwyaf effeithiol. 

Yn 2025, parhaodd y tîm i fireinio'r gronfa ddata i sicrhau llif parhaus ac effeithlon o ddata. Mae'r NPMMP yn defnyddio system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) i gofnodi, dadansoddi a rhannu data gyda ffurflen mewnbynnu data sydd mor hawdd â phosibl i bawb ei defnyddio.    

I ddarganfod mwy am yr NPMMP, cliciwch yma: Belaod ar Grwydr | Rhaglen Fonitro Genedlaethol Bele’r Coed... 

Monitro bele’r coed 

Mae blychau nythu wedi cael eu defnyddio i warchod bele’r coed ers mwy nag 20 mlynedd, ers i geidwaid coedwig ddarganfod y rhywogaeth gyntaf gan ddefnyddio blychau tylluanod fel cuddfannau ym Mharc Coedwig Galloway ym 1988. Hyn a sbardunodd y syniad i greu blychau penodol ar gyfer y rhywogaeth a chrëwyd blwch nythu bele’r coed VWT. Mewn mannau lle gosodwyd niferoedd mawr o flychau nythu eisoes, gwnaed hynny i helpu i sefydlu poblogaethau sydd wedi newid lleoliad. Fodd bynnag, am y tro cyntaf, mae Belaod ar Grwydr wedi dewis canolbwyntio ein gwaith o osod blychau ar niferoedd cymharol isel ar draws ardaloedd eang lle mae poblogaethau sy'n adfer yn fwyaf tebygol o ail-sefydlu'n naturiol (yn seiliedig ar ddata modelu cynefinoedd a rhywogaethau blaenorol). Yn y modd hwn, gallwn wella'r cynefin ar gyfer bele’r coed trwy ddarparu cyfleoedd hanfodol iddynt nythu a monitro poblogaethau wrth iddynt ehangu a sefydlu ac adfer yn naturiol ar draws siroedd.  

Yn ystod blwyddyn gyntaf Belaod ar Grwydr, fe wnaethom osod 24 blwch nythu ar draws y chwe Hwb Monitro ac eleni roedd y tîm yn teimlo’n arbennig o gyffrous ynglŷn â’r tymor bridio a chanlyniadau ein gwaith o'r flwyddyn flaenorol. Ar ddechrau'r tymor bridio ym mis Ebrill, gyda chymorth gwirfoddolwyr, fe wnaethom osod camerâu fideo ym mhob un o'n blychau nythu newydd (gan gynnwys deg a osodwyd yn ystod y cyfnod datblygu) a pharhawyd â'r gwaith monitro hirdymor yn ein Hwb Monitro blaenllaw yng Nghanolbarth Cymru. Yn yr haf, ar ôl i'r camerâu fideo hyn gael eu casglu, dechreuodd y rhan gyffrous... sef adolygu'r fideo. Weithiau rhaid syllu ar sgrin am amser hir yn gwylio blwch nythu yn unig, ond mae'r wefr a deimlir pan fydd bele’r coed (neu sawl bele’r coed) yn ymddangos ar y sgrin yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Mae gweld bele’r coed yn dringo coeden, neidio rhwng canghennau, neu weithiau mam yn dysgu ei rhai bach sut i ddringo, yn wirioneddol arbennig. Weithiau mae'n rhaid i chi wylio'r fideo fwy nag unwaith cyn i chi gredu eich llygaid. 

Blwch nythu arbennig o gofiadwy eleni oedd un yn ein Hwb Monitro yng Nghanolbarth Cymru lle dangosodd y lluniau o’r camera fam bele’r coed yn symud y tri bach o'r blwch nythu mewn un bore. Weithiau bydd bele’r coed yn symud ei rhai bach o’r naill flwch i’r llall os bydd amodau'n newid neu os oes rhywbeth yn tarfu arnynt. Serch hynny, mae hwn yn dal i fod yn ddata pwysig sy'n ein helpu i ddeall ychydig mwy am y rhywogaeth. 

Mam bele’r coed yn mynd â’i chenau yn ôl i’r blwch lloches diogel a chlyd.

Gyda 42 blwch nythu arall wedi'u gosod eleni, rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o ddeunydd wedi’i ffilmio am y bele’r coed yn 2026. 

Ymgysylltu â'r cyhoedd 

Rhwng yr holl waith hwn, llwyddodd Tîm Belaod ar Grwydr i siarad â mwy na 1,400 o bobl mewn cynadleddau, sesiynau gwirfoddoli, digwyddiadau VWT a digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys y canlynol. 

  • Cynhadledd y Gymdeithas Mamaliaid
  • Wythnos Fawr Werdd yn Wallington (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
  • Gŵyl Natur Peebles
  • Gŵyl yr Eryr Aur
  • Gŵyl Eco Casnewydd
  • Cynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
  • Grŵp Bywyd Gwyllt Leintwardine
  • Cyfarfod Bele’r Coed Gogledd Lloegr
  • Gweithdy Coedwigaeth Prydain a Bele’r Coed 

Fe wnes i fwynhau'n arbennig y cyfle i helpu i gynnal diwrnod am ddim i’r teulu ar Safle Wentwood Haven i bobl gyda chefnogaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghasnewydd gerllaw. Daeth grŵp o 25 o ffoaduriaid, gan gynnwys plant ifanc, pobl ifanc ac oedolion, draw i fwynhau teithiau cerdded tywys o amgylch y coetir hardd, gweithgareddau ymgysylltu i'r plant, ynghyd â chinio a diodydd poeth. Roedd yn hyfryd cynnig y profiad hwn i unigolion nad ydynt fel arfer yn cael y cyfle i brofi cefn gwlad a choetiroedd Cymru, ac i dreulio'r diwrnod yn ymgolli ym myd natur. Mae'r tîm yn gobeithio darparu mwy o ddiwrnodau fel hyn i deuluoedd yn ein safleoedd Hafan eraill! 

Roeddem yn falch bod cyfweliad gyda Rheolwr Prosiect Belaod ar Grwydr, Dr Stephanie Johnstone, wedi'i ffilmio ar gyfer rhaglen BBC Landward - cyfres BBC Scotland sy'n canolbwyntio ar fywyd gwledig, bywyd gwyllt a thirweddau naturiol yn yr Alban. Siaradodd Stephanie am bwysigrwydd blychau nythu i fele’r coed a dangosodd sut maen nhw'n cael eu gosod. Mae gan BBC Landward gynulleidfa wythnosol o 250,000 o bobl, sy'n gynulleidfa wych i Belaod ar Grwydr! 

Edrych ymlaen at 2026 

Yn 2026, nid yw Belaod ar Grwydr yn sicr yn arafu! Byddwn yn parhau i osod blychau nythu bele’r coed, monitro'r rhywogaethau yn ystod y tymor bridio, archwilio a chynnal a chadw blychau nythu yn yr hydref, darparu sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr a mynychu digwyddiadau cymunedol. Ar ben hyn, byddwn yn parhau i greu amrywiaeth o ddogfennau canllaw gyda fideos hyfforddi cysylltiedig i gefnogi ein gwirfoddolwyr ac eraill sy'n cyfrannu at warchod bele’r coed. 

Yn ogystal â hyn, mae Belaod ar Grwydr a Thîm Cyfathrebu VWT yn gweithio gyda Dr Andrea Mapplebeck, ymgynghorydd addysg gyda Formative Education, i baratoi adnoddau addysg sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm ar wahanol agweddau ar fele’r coed. Bydd yr adnoddau yn cysylltu â phob un o'r cwricwla yng Nghymru, yr Alban a Lloegr a byddant ar gael ar-lein i athrawon a darparwyr addysg eraill yn ystod Tymor 6. 

Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous a phrysur arall o Belaod ar Grwydr, wedi'i hwyluso gan chwaraewyr y loteri. 

Rowie Burcham